Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Tachwedd 2015
Amser: 09.06 -
11.03
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3285
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC Keith Davies AC (yn lle Sandy Mewies AC) |
Tystion: |
Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Joanna Jordan, Llywodraeth Cymru Martin Sollis, Llywodraeth Cymru Janet Davies, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Buckle (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Dave Thomas (Swyddfa Archwilio Cymru) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Dirprwyodd Keith Davies ar ei rhan.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru; Joanna Jordan, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Corfforaethol a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru; Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru; a Janet Davies, Cynghorydd Arbennig - Ansawdd a Diogelwch, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i ymchwiliad i lywodraethu byrddau iechyd.
3.2 Cytunodd Dr Goodall i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am:
· Y broses benodi ar gyfer aelodau annibynnol o'r byrddau iechyd
· Y llwybrau a pherthnasau sydd gan Fwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr yn eu lle ar gyfer gwasanaethau arennol o ran y model both ac adenydd.
· Rhagamcan o sefyllfa ariannol pob bwrdd iechyd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2015-16
3.3 Yn ystod Eitem 5, wrth drafod y dystiolaeth a gafwyd, gofynnodd yr Aelodau am gael gwybod beth yw statws uwchgyfeirio pob bwrdd iechyd.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law.